Cymryd rhan fel sefydliad
Ydych chi’n dymuno deall mwy am sut i gael pobl i gymryd rhan yn eich sefydliad neu grŵp? Ydych chi wedi bod eisiau teimlo’n rhan o rwydwaith ehangach o unigolion, sefydliadau a llywodraeth sy’n lleol i’ch anghenion a’ch gweledigaeth chi am y dyfodol?
Bydd cymryd rhan gyda rhaglen Straeon o’r Cymoedd fel sefydliad yn darparu ffordd wahanol o archwilio sut i ddenu pobl mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw. Prif fwriad a ffocws y rhaglen yw darparu lle i bobl gael codi’u llais mewn ysbryd cydweithredol a chreadigol.
Fel sefydliad, mae sawl lefel o gymryd rhan y gallwch chi ymwneud â nhw, o rannu ymchwil a helpu gyda recriwtio, i aelodaeth a chyd-greu ‘pecynnau’ penodol. Rhaglen nid-er-elw yw hon, felly cynlluniwyd taliadau i dalu am gefnogaeth gan Ganolfan Cynefin. Disgwylir hefyd i rai sy’n cymryd rhan ymrwymo adnoddau i’r rhaglen. Mae adnoddau ychwanegol ar gael ledled y byd drwy rwydwaith Cognitive Edge o ymgynghorwyr annibynnol ac academyddion os oes angen.
Mae aelodaeth yn agored i unrhyw grŵp cyfreithlon ar lefelau cost amrywiol. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru’n gymwys fel gwlad fach, ond ymysg grwpiau eraill i ddangos diddordeb cynnar mae dinasoedd, rhanbarthau ac adrannau llywodraeth, ynghyd ag NGOs. Y nod yw cysylltu clystyrau drwy Sefydliadau Addysgol, ond nid yw hynny’n orfodol.
Rhan allweddol y rhaglen yw’r cysyniad o Becyn sy’n berthnasol i faes gweithredu penodol. Bydd pecyn yn cynnwys cyfarwyddiadau llawn, deunydd cefnogi a mynediad i hyfforddiant a chefnogaeth. Mae’r cyllid cychwynnol gan Lywodraeth Cymru’n talu am gynhyrchu tri phecyn, ond gellir dechrau ar rai eraill os oes galw amdanynt. Bydd sefydliadau sy’n cyllido cynhyrchu pecyn newydd yn elwa o ddefnyddio’r pecyn hwnnw gan aelodau eraill yn ddiweddarach.
Gellir cyd-gynhyrchu pob pecyn gan gynnwys cynrychiolwyr o blith y meysydd diddordeb. Y rhai fydd ar gael yn gyffredinol ar gyfer prosiect Straeon o’r Cymoedd yw: Cymuned, Addysg a Chlybiau Chwaraeon.
Os hoffech ddysgu rhagor, yna edrychwch drwy ein pecynnau ym meysydd cymuned, addysg a chwaraeon yn y Cymoedd, ac mae pob croes i chi gysylltu â’n swyddog denu lleol, Bethan, yn uniongyrchol ar:bsmith@interlinkrct.org.uk