Cymryd rhan fel unigolyn
Oes gen ti rywbeth i’w ddweud am dy brofiad di o fyw yn dy gymuned? Wyt ti wedi bod eisiau lleisio dy farn ar y profiad o fod yn yr ysgol, y coleg neu chwilio am waith? Wyt ti eisiau bod yn rhan o rywbeth sy’n annog pawb i gael llais a gwneud newidiadau ble mae’r angen mwyaf am hynny?
Drwy gymryd rhan gyda rhaglen Straeon o’r Cymoedd fel unigolyn, byddi di’n cael y cyfle i adrodd dy Straeon am gymuned, addysg a chwaraeon fan hyn yn y Cymoedd.
Cadwa olwg am ddiweddariadau ynglŷn â chyfarfodydd cymunedol i drafod canlyniadau yn dy ardal di drwy ddod yn gyfarwydd â’n calendr digwyddiadau ar y wefan. Ond am y tro, galli di ddechrau drwy ddarllen y pecynnau sydd o’r diddordeb mwyaf i ti isod.