Dod yn Newyddiadurwr Dinasyddol
Ydych chi’n awyddus i ymwneud â’r hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol? Ydych chi wastad wedi bod eisiau dysgu mwy am y ffordd y bydd pobl eraill yn gweld bywyd yn y cymoedd ac estyn allan i bobl o bob oedran, ac o bob cefndir? O gymunedau tebyg neu wahanol i’ch un chi?
Mae dod yn ‘Newyddiadurwr Dinasyddol’ gyda rhaglen Straeon o’r cymoedd yn cynnig ffordd newydd sbon o gymryd rhan mewn gweithgareddau lleol, a chael codi
eich llais, tra’n helpu eraill i wneud yr un peth.
Gofynnir i ‘Newyddiadurwr Dinasyddol’ fynd a’n ap casglu straeon, SenseMaker®, allan i’r Cymoedd i gyfweld pobl o gwmpas un (neu ragor!) o’n tri maes diddordeb:cymuned; addysg; chwaraeon.
Os ydych chi’n fyfyriwr neu newydd adael ysgol, yn wirfoddolwr neu’n gweithio, mae ‘Newyddiaduraeth Ddinasyddol’ yn agored i bawb, a gall roi hyfforddiant a chymhwyster i chi fydd yn ychwanegu rhywbeth at eich CV neu gais i fynd i goleg / prifysgol.
Cadwch lygad am newyddion am gyfleoedd hyfforddi yn agos atoch chi drwy ddod yn gyfarwydd â’n calendr digwyddiadau ar y wefan. Ond am y tro gallwch ddechrau drwy ddarllen y pecynnau isod.